March 2018
New CCIO Network launches   
 
The Chief Clinical Informatics Officers (CCIO) Network Cymru was launched this month in Cardiff.

The network aims to bring a consortium of Health Care Professionals together, doctors, nurses and allied health professionals, to provide them with an education programme that gives them the skills to help deliver the digitalisation of healthcare across Wales.

It follows the 2016 Wachter Report and the recent Wales Audit Office report on informatics systems in NHS Wales highlighting the importance of clinical leadership within the field of health informatics.

"This is a milestone moment for health and care IT in Wales," says NHS Wales Chief Executive, Andrew Goodall, "and I believe it is 'mission critical' to bring about the change we need."

Wales now joins England and Ireland in establishing a robust network of clinical leaders committed to informatics.
 
iRefer goes live  
 
Having the appropriate guidelines is essential in radiology investigation - ensuring  patients have timely and accurate diagnoses while supporting the right test, at the right place, at the right time.

iRefer, now available via NHS Wales e-library, provides those guidelines, referring GPs, radiographers, clinicians and other healthcare professionals to determine the most appropriate imaging investigations or interventions for patients and providing practical guidance based on the best available evidence.
 
"Ensuring that the most appropriate imaging test is conducted at the right time can have a major impact on healthcare provision more widely," says Sian Phillips, Head of Radiology Specialty Training School at Abertawe Bro Morgannwg University Health Board. Appropriate referrals are essential in order to promote uniform and best care for patients and reduce the number of unhelpful or repeat investigations. [iRefer] also supports a rapid diagnosis, which can shorten patient management pathways and protect the patient by avoiding unnecessary ionising radiation."

The NHS Wales e-Library - the digital source for knowledge and evidence - includes more than three thousand subscription and OpenAccess e-journals,  bibliographic and full text databases, point of care tools and a variety of other e-resources.

GP service roadshow underway this spring   
 
A series of roadshow events in April and May will enable GP Practices to evaluate the new GP systems, with dates and venues throughout Wales. 
 
The roadshows follow the new framework contract to supply GP IT systems and services to NHS Wales recently announced.

GP practices will be able to send their representatives to any of the nine upcoming events  to learn more about the new systems and services as well as giving them opportunities to ask questions. Following these roadshows, GP practices will be asked to formally evaluate the new systems to determine their clinical system they will use in the future.


Practices can contact our Primary Care team at gpict@wales.nhs.uk for further information.  
GPs to have safer and more secure operating systems
 
As part of a national five year GP Computer Refresh programme, GP practices throughout Wales will have their computer operating systems upgraded from Windows 7 to Windows 10.

Windows 10 is the most secure Windows system to date, with increased cybersecurity features and improved protection against the threat of malicious attacks.

The computer refresh begins this spring with prioritisation based on the age and warranty status of current hardware. Because many practices use third party software for duties such as payroll, spirometry and dictation (to name a few), our Client Services team is engaging with those software suppliers to carry out testing and ensure compatibility with the Windows 10 upgrade.

Marwth 2018
Lansio Rhwydwaith Prif Swyddogion Gwybodeg Glinigol Newydd     
Lansiwyd Rhwydwaith Prif Swyddogion Gwybodeg Glinigol (CCIO) Cymru y mis hwn yng Nghaerdydd.

Mae Adroddiad Wachter 2016, ac adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru, Systemau Gwybodaeth yn GIG Cymru, ill dau'n amlygu pwysigrwydd arweinyddiaeth glinigol o fewn Gwybodeg Iechyd. Nod y rhwydwaith yw dod â chonsortiwm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol at ei gilydd, meddygon, nyrsys, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, i ddarparu ar eu cyfer, rhaglen addysg sy'n rhoi'r sgiliau iddynt i helpu cyflwyno digidoli gofal iechyd ledled Cymru.  
 
"Mae hon yn garreg filltir i TG iechyd a gofal yng Nghymru," meddai Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall, "a chredaf ei bod hi'n 'hanfodol i'r genhadaeth' i arwain at y newid sydd ei angen arnom."
 
Mae Cymru nawr yn ymuno ag Iwerddon a Lloegr, o ran sefydlu rhwydwaith cadarn o arweinwyr clinigol sy'n ymrwymedig i wybodeg.

iRefer yn fyw       
 
Mae cael canllawiau priodol yn hanfodol mewn ymchwiliad radioleg - sy'n sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis amserol a chywir, wrth gynnal y prawf cywir, yn y man cywir, ar yr adeg gywir.

Mae iRefer, sydd bellach ar gael trwy e-lyfrgell GIG Cymru, yn darparu'r canllawiau hynny, sy'n cyfeirio meddygon teulu, radiograffwyr, clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i bennu'r ymyriadau neu'r ymchwiliadau delweddu mwyaf priodol ar gyfer cleifion, a darparu canllaw ymarferol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.
 
"Gall sicrhau bod y prawf delweddu mwyaf priodol yn cael ei gynnal ar yr amser cywir gael effaith fawr ar ddarpariaeth gofal iechyd yn ehangach," meddai Sian Phillips, Pennaeth Ysgol Hyfforddi Arbenigol Radioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae cyfeiriadau priodol yn hanfodol er mwyn hyrwyddo gofal unffurf, gorau i gleifion, a lleihau nifer yr ymchwiliadau sy'n cael eu hailadrodd neu sy'n ddiddefnydd. Mae iRefer hefyd yn cynorthwyo diagnosis cyflym, a all fyrhau llwybrau rheoli cleifion, a diogelu'r claf trwy osgoi ymbelydredd ïoneiddio diangen."

Mae e-lyfrgell GIG Cymru - y ffynhonnell ddigidol ar gyfer gwybodaeth a thystiolaeth - yn cynnwys mwy na 3,000 o danysgrifiadau ac e-gyfnodolion OpenAccess, cronfeydd data llyfryddol a thestun llawn, offer pwynt gofal, ac amrywiaeth o e-adnoddau eraill

Sioe deithiol gwasanaeth meddygon teulu ar daith y gwanwyn hwn         
 
Bydd cyfres o ddigwyddiadau sioe deithiol ym mis Ebrill a mis Mai yn galluogi meddygfeydd i werthuso'r systemau meddygon teulu newydd, a gynhelir ar ddyddiadau ac mewn lleoliadau ledled Cymru. 
 
Mae sioe deithiol yn dilyn y contract fframwaith newydd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, i gyflenwi gwasanaethau a systemau TG i feddygon teulu, i GIG Cymru.

Bydd meddygfeydd yn gallu anfon eu cynrychiolwyr i unrhyw un o'r naw o ddigwyddiadau sydd ar ddod, i ddysgu mwy am y gwasanaethau a'r systemau newydd, yn ogystal â chael cyfle i ofyn cwestiynau. Yn dilyn y sioe deithiol, byddwn yn gofyn i feddygfeydd werthuso'r systemau newydd yn ffurfiol a phennu'r system glinigol y byddant yn ei defnyddio yn y dyfodol.

Gall meddygfeydd gysylltu â'n Tîm Gofal Sylfaenol
ar gpict@wales.nhs.uk i gael mwy o wybodaeth.    
Systemau gweithredu mwy saff a diogel i feddygon teulu
 
Yn rhan o raglen genedlaethol pum mlynedd Adnewyddu Cyfrifiaduron Meddygon Teulu, bydd systemau gweithredu cyfrifiadurol meddygfeydd ledled Cymru yn cael eu huwchraddio o Windows 7 i Windows 10.

Windows 10 yw'r system Windows fwyaf diogel hyd yn hyn, gyda nodweddion seibr-ddiogelwch cynyddol, a gwell diogelwch yn erbyn y bygythiad o ymosodiadau maleisus.
Bydd y gwaith adnewyddu cyfrifiaduron yn dechrau yn y gwanwyn, gyda blaenoriaethau'n seiliedig ar oedran a statws gwarant y caledwedd presenol. Gan fod llawer o feddygfeydd yn defnyddio meddalwedd trydydd parti ar gyfer dyletswyddau fel cyflogres, sbirometreg ac arddweud (i enwi rhai yn unig), mae ein Tîm Gwasanaethau Cleientiaid yn ymgysylltu â'r cyflenwyr meddalwedd hynny i gyf;awni profion, a sicrhau eu bod nhw'n cydweddu â'r uwchraddiad i Windows 10.