January 2019
RadIS2 completes national rollout
 
All health boards in Wales are now using  the Welsh Radiology Information System (WRIS) also known as RadIS2.
 
The system - which performs functions such as patient scheduling and clinical reporting involving medical images such as x-rays, CT and MRI scans and ultrasound - rolled out across Abertawe Bro Morgannwg University Health Board (West) late in 2018, completing its national implementation.
 
WRIS works in conjunction with the Picture Archiving and Communications System (PACS) to manage the storage, retrieval, distribution and presentation of images and allows the sharing of these images nationally.
 
Our RadIS Support team is working closely with local IT departments in both Morriston and Singleton hospitals in Swansea and early feedback has been positive.
 
"For the first time, all hospitals in Wales are running their radiology departments using the National WRIS," says RadIS Senior Product Specialist, Amanda Carter. "This means that all users across Wales can work towards a common goal and drive radiology services forward together. This is great achievement. It has been a significant challenge on many levels but the journey has been made easier by the commitment, professionalism and determination of all involved."

computer-mouse-abstract.jpg
NHS Wales to create world-leading national data resource 
 
A national data resource (NDR) is being developed to better enable NHS Wales to improve patient experience and service outcomes.

The NDR aims to bring together all patient data in one place using common language and technical standards. It will improve the way data is collected, shared and used across health and care organisations in Wales and will drive forward the interoperability of health and care systems.

NHS Wales Informatics Service is currently working with health boards, trusts and other stakeholders to deliver the ambitious project.

Rather than data being stored separately across different systems and databases, the NDR will provide a single place to access consistent data by clinicians, operational managers, data scientists and other users. 

"Ultimately, the NDR will provide the information needed to run a more efficient, innovative and productive NHS Wales. It will improve the quality and enforce the consistency of all health and social care data - making review and comparison of care services outcomes much easier."

Dr John Peters, Consultant Physician  and  NHS Wales Strategic Lead
for the Improvement and Innovation Workstream
NHS Wales Informatics Service is currently working towards a completion date of December 2020 for the NDR to be fully functional and accessible.
GPTR progresses
 
As the popularity of the GP Test Requesting service (GPTR) increases, a new version of the service that provides faster data retrieval and quicker startups is receiving positive feedback.

The release of GPTR version 8 of the service - allowing staff at general practices to send test requests electronically as well as view patient test results - rolled out in November across all Welsh health boards.

The service continues to show its worthPowys Teaching Health Board uses GPTR to view tests they send to laboratories in other health boards. Their November's usage showed a continuing increase - an 11% climb over the previous month in test requesting and 30% in results reporting. I
n Aneurin Bevan University Health Board, test requesting by GPs has increased nearly 30% under the new version with a nearly 20% increase of electronic requests over paper.
Valuing our staff   
 
NHS Wales Informatics Service has become the first organisation in the UK to hold both the BS76000 'Valuing People' and the new BS76005 'Diversity and Inclusion Standard,' awarded by the British Standards Institution (BSI).
 
The Diversity and Inclusion Standard builds upon these principles to include embracing diversity, preventing discrimination and building an inclusive working culture.

We achieved the 'Valuing People Standard' in 2017 - which demonstrates an organisation's commitment toward recognising the value of its employees.
 
Also, we've received the Gold 'Corporate Health Standard' by Welsh Government for providing initiatives and the embedding of Health and Wellbeing objectives into our corporate culture.
 
The award was given after we committed to the criteria set by Healthy Working Wales. Some of our employee initiatives include 'health and wellbeing' workshops, flu vaccinations, mental health first aiders in all offices, and the promotion of flexible working arrangements.
 
"Working in healthcare, it is as important to care for the health of our staff as we do for our patients," says our Workforce & Organisational Development Manager Sarah Brooks. "The achievement of the 'Gold Corporate Health Standard' is testament to the fact we are passionate and proactive about the health and wellbeing of our staff and it is at the heart of everything we do." 

Claire Ombudson-Little
Welcome to the team   
 
We are pleased to announce that Claire Osmundson-Little (right) has joined our organisation as the new Director of  Finance and Business Assurance. Claire is Morriston Hospital's Associate Director of Finance.
 
We want to wish a happy retirement to our previous Director of Finance and  Business Assurance, Mike Flanagan, as well as our Director of NHS ICT Programmes, Liz Waites.  

Ionawr 2019
Cwblhau cyflwyno RadIS2 yn genedlaethol
 
Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn defnyddio System Gwybodaeth Radioleg Cymru (WRIS), sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel RadIS2.
 
Cyflwynwyd y system - sy'n perfformio swyddogaethau fel amserlennu cleifion ac adrodd clinigol sy'n ymwneud â delweddau meddygol, fel delweddau pelydr-x, sganiau CT ac MRI, ac uwchsain - ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol  Abertawe Bro (gorllewin) ar ddiwedd 2018, gan gwblhau ei weithrediad cenedlaethol.
 
Mae WRIS yn gweithio mewn cydweithrediad â'r System Archifo Lluniau a Chyfathrebu (PACS) i reoli storio, adalw, dosbarthu a chyflwyno delweddau, ac mae'n caniatáu rhannu'r delweddau hyn yn genedlaethol.
 
Mae ein tîm Cymorth RadIS yn gweithio'n agos ag adrannau TG lleol yn ysbytai Treforys a  Singleton yn Abertawe, ac mae adborth cynnar wedi bod yn gadarnhaol.
 
"Am y tro cyntaf, mae'r holl ysbytai yng Nghymru yn rhedeg eu hadrannau radioleg gan ddefnyddio'r WRIS cenedlaethol," meddai Uwch Arbenigwr Cynhyrchion RadIS, Amanda Carter. "Mae hyn yn golygu y gall yr holl weithwyr ledled Cymru weithio tuag at nod gyffredin a hybu gwasanaethau radioleg ymlaen gyda'i gilydd. Mae hwn yn gyflawniad gwych. Mae wedi bod yn her sylweddol ar nifer o lefelau, ond mae'r daith wedi bod yn haws yn sgil ymrwymiad, proffesiynoldeb a phenderfyniad pawb a oedd yn gysylltiedig."
computer-mouse-abstract.jpg
GIG Cymru yn creu adnodd data cenedlaethol blaenllaw 
 
Mae adnodd data cenedlaethol (NDR) yn cael ei ddatblygu i alluogi GIG Cymru yn well i wella profiad cleifion a chanlyniadau gwasanaethau.  
 
Nod NDR yw dod â data cleifion at ei gilydd mewn un man, gan ddefnyddio safonau technegol ac iaith gyffredin. Bydd yn gwella'r ffordd y caiff data ei gasglu, ei rannu a'i ddefnyddio ar draws sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru, a bydd yn datblygu gallu i ryngweithredu'r systemau iechyd a gofal.
 
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrthi'n gweithio gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a rhanddeiliaid eraill i gyflwyno'r prosiect uchelgeisiol.
 
Yn hytrach na bod y data'n cael ei storio ar wahân ar draws systemau a chronfeydd data gwahanol, bydd yr NDR yn darparu un man i gyrchu data cyson gan glinigwyr, rheolwyr gweithredol, gwyddonwyr data, a defnyddwyr eraill.

"Yn y pen draw, bydd yr NDR yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i redeg GIG Cymru a fydd yn fwy effeithlon, arloesol a chynhyrchiol. Bydd yn gwella ansawdd ac yn atgyfnerthu cysondeb yr holl ddata iechyd a gofal cymdeithasol - gan wneud adolygu a chymharu canlyniadau gwasanaethau gofal lawer yn haws."
 
Dr John Peters, Meddyg Ymgynghorol ac 
Arweinydd Strategol GIG Cymru ar gyfer y Ffrwd Gwaith Arloesi a Gwella
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrthi'n gweithio tuag at ddyddiad cwblhau ym mis Rhagfyr 2020, i'r NDR fod yn gyfan gwbl weithredol a hygyrch.
GPTR yn datblygu
 
Wrth i boblogrwydd y gwasanaeth Gwneud Cais am Brofion gan Feddygon Teulu (GPTR) gynyddu, mae fersiwn newydd o'r gwasanaeth sy'n darparu adalw data cyflymach, a llwytho cyflymach yn derbyn adborth cadarnhaol.

Cyflwynwyd fersiwn 8 o'r gwasanaeth GPTR - sy'n caniatáu i'r staff mewn meddygfeydd anfon ceisiadau am brofion yn electronig, yn ogystal â gweld canlyniadau profion cleifion - ym mis Tachwedd, ar draws holl fyrddau iechyd Cymru.

Mae'r gwasanaeth yn parhau i ddangos ei werth . Mae Bwrdd Iechyd Addysg Powys yn defnyddio GPTR i weld y profion y maen nhw'n eu hanfon i labordai mewn byrddau iechyd eraill. Fe wnaeth eu defnydd ym mis Tachwedd ddangos cynnydd parhaus - cynnydd o 11% ar y mis blaenorol mewn ceisiadau am brofion, a 30% mewn adrodd canlyniadau. Ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fe wnaeth nifer y ceisiadau am brofion gan feddygon teulu gynyddu bron 30% o dan y fersiwn newydd, gyda chynnydd o bron 20% mewn ceisiadau electronig yn hytrach na rhai papur.
Gwerthfawrogi ein staff     
 
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yw'r sefydliad cyntaf yn y DU i gael BS76000 'Gwerthfawrogi Pobl' a   a'r safon newydd, BS76005 'Safon Amrywiaeth a Chynhwysiant,'  a ddyfarnir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI).
 
Mae'r Safon Amrywiaeth a Chynhwysiant yn adeiladu ar yr egwyddorion hyn i gynnwys croesawu amrywiaeth, atal gwahaniaethu, ac adeiladu diwylliant gweithio cynhwysol.
 
Cyflawnom y Safon 'Gwerthfawrogi Pobl' yn 2017 - sy'n arddangos ymroddiad sefydliad i gydnabod gwerth ei weithwyr.
 
Hefyd, derbyniom  'Safon Iechyd Corfforaethol'   Aur gan Lywodraeth Cymru am ddarparu mentrau a mewnosod amcanion iechyd a lles yn ein diwylliant corfforaethol.
 
Rhoddwyd y wobr ar ôl i ni ymrwymo i'r meini prawf a osodwyd gan Cymru Iach ar Waith. Mae rhai o'n mentrau i weithwyr yn cynnwys gweithdai 'iechyd a lles', brechiadau ffliw, swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob swyddfa, a hyrwyddo trefniadau gweithio hyblyg.
 
"Wrth weithio ym maes gofal iechyd, mae yr un mor bwysig i ni ofalu am iechyd ein staff, fel y gwnawn ar gyfer ein cleifion," meddai ein Rheolwr Datblygu'r Gweithlu a'r Sefydliad, Sarah Brooks. "Mae cyflawni 'Safon Iechyd Corfforaethol Aur' yn destament i'r ffaith ein bod ni'n frwdfrydig ac yn rhagweithiol am iechyd a lles ein staff, a'i fod wrth wraidd popeth rydym ni'n ei wneud."
Claire Ombudson-Little
Croeso i'r tîm
 
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Claire Osmundson-Little (ar y dde) wedi ymuno â'n sefydliad fel y Cyfarwyddwr Cyllid a Sicrwydd Busnes newydd. Claire yw Cyfarwyddwr Cyllid Cysylltiol Ysbyty Treforys.
 
Hoffem ddymuno ymddeoliad hapus i'n Cyfarwyddwr Cyllid a Sicrwydd Busnes blaenorol, Mike Flanagan, yn ogystal â'n Cyfarwyddwr Rhaglenni TGCh y GIG, Liz Waites.