January 2018
Portal provides access to clinical documents across Wales  
 
For the first time, health professionals across Wales can view clinical documents and see test results created or generated electronically in other health board areas through the Welsh Clinical Portal. 
 
This achievement has been made possible through the use of national digital platform and standards, which allow information to follow the patient wherever care is delivered.
 
Documents available through the Welsh Clinical Portal include GP e-referrals, e-discharges, clinic letters, clinic notes, pre-assessment notes and theatre operation notes. To date, Welsh Clinical Portal users can access 10.3 million clinical documents, of which nearly 100,000 are viewed each month.
 
These documents are stored in the Welsh Care Records Service (WCRS) which in time will replace paper records.
 
Following implementation this spring of the WCRS in Betsi Cadwaladr and Aneurin Bevan health boards, as well as Velindre NHS Trust, all staff using the Welsh Clinical Portal will be able to access clinical documents generated outside of their health board.

WRRS heads into more health boards 
 
This spring, Betsi Cadwaladr and Aneurin Bevan will be the final two health boards to go live with the Welsh Results Reporting Service, allowing health staff to view diagnostic reports and requests for their patients, regardless of where they were generated or produced.  The Welsh Results Reporting Service is available through the Welsh Clinical Portal - the e-tool providing users with high quality applications that support daily tasks in the delivery of care.
 
During the same period , access to radiology results is scheduled to go live at Cardiff and Vale Health Board, Velindre NHS Trust, Singleton and Morriston hospitals.  
 
From that point forward, clinicians will be able to view both pathology and radiology test results wherever they were generated in Wales, delivering significant benefits to patient care and improving efficiency. This will help to reduce duplicated and unnecessary tests as well as providing Welsh Clinical Portal users with access to essential information at the point of care.  
 
The WRRS currently provides access to Cwm Taf cardiology reports with Abertawe Bro Morgannwg and Aneurin Bevan health boards to follow later this year.
 
In 2017, more than two million test reports were viewed in the Welsh Clinical Portal via WRRS. Of these, a total of 112,000 test results (does not include multiple views) were viewed across health board boundaries. Currently, twenty thousand out-of-health board area results are being viewed each month.  
 
These new features available through the Welsh Clinical Portal are critical to service transformation, and provide healthcare staff with the digital services they need to support clinical care and tasks.
Welsh PAS making a difference     
 
2017 was a busy year for the Welsh Patient Administration System.  

In the last twelve months, WPAS processed 1.8 billion transactions, including 4.5 million letters for patients, 3.9 million outpatient attendances and 1.7 million referrals.

Six out of seven health boards use WPAS. Abertawe Bro Morgannwg University Health Board went live with the latest version in November.

WPAS manages patient administration in hospitals. It holds patient ID details, outpatient appointments, letters and notes. It also records details of patients' hospital visits, including waiting list management, medical records, inpatient treatment, outpatient appointments and emergency visits.
Pharmacists given access to Welsh GP Record
 
Community pharmacists have been given access to the medicines information in the Welsh GP Record, in a pilot project being run across Wales.

Through the pilot, pharmacists can check key information from a patient's GP record when asked for an emergency supply of medicines . This will confirm that this is medication the patient requires to safely support their healthcare  Information available to the pharmacist includes current medication and medication prescribed to the patient in the last two years. It also shows allergies and any adverse reactions.
 
Choose Pharmacy helps people get treatment for minor conditions without visiting their GP. A pharmacist can carry out a consultation and see a summary of the patient's GP medical record (with the patient's consent) to ensure appropriate medicines are prescribed. Digital services also support pharmacies offering seasonal flu jabs and emergency prescription services. 
 
The pilot is being run in four pharmacies, and if successful it will be extended to all pharmacies with access to the Choose Pharmacy IT system.   Currently, nearly two-thirds of all pharmacies in Wales offer Choose Pharmacy services.

Through Choose Pharmacy, patients leaving hospital can also ask for their discharge information to be sent electronically to a community pharmacist of their choice, making it easier for the pharmacist to undertake a discharge medicines review (DMR). See how DMRs work through the Choose Pharmacy system on our lastest video.

The road ahead    
 
"Collaboration with clinicians and industry partners will continue to help us achieve our aims," says NHS Wales Informatics Service Director Andrew Griffiths in an article by Digital Health News asking influential UK digital health leaders to give their predictions of what lies in store for the world of digital health and NHS IT in 2018.  
 
Griffiths adds, "we are setting up a CCIO network for Wales to place digital pioneers on the frontline and promote and develop current and future clinical information leaders."
 
Read the article, "Predictions for the Year Ahead: UK digital health leaders on 2018," on DigitalHealth.net website.
Welsh Audit Office issues report on informatics    
 
A report into the use of informatics in NHS Wales has been published by the Welsh Audit Office.  The report says that NHS Wales has a clear vision for the electronic patient record but more work is needed to deliver it.
 
We welcome the report, which highlights how technology can improve patient care, and enable service change - at the same time recognising that ongoing investment is essential.
 
Join the Hack Pack   
   
And this is just another reminder, NHS Hack Day is right around the corner - when, over two days, people come together to brainstorm, come up with quick solutions and maybe even create actual software products for better healthcare.  
 
NHS Hack Day in Cardiff begins January 27th and 28th and will be hosted by our Associate Medical Director Anne Marie Cunningham. Head to nhshackday.com to learn more. 
 
There is also still time to register for the Welsh Health Hack also in Cardiff on March 22nd and 23rd through Life Sciences Hub Wales.   
 
Both events are free.   
Ionawr 2018
Porth yn darparu mynediad at ddogfennau clinigol ledled Cymru 
 
Am y tro cyntaf, gall gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru weld dogfennau clinigol, a gweld canlyniadau profion a grëwyd neu a gynhyrchwyd yn electronig mewn ardaloedd byrddau iechyd eraill, trwy Borth Clinigol Cymru.
 
Mae'r cyflawniad hwn wedi bod yn bosibl trwy ddefnyddio safonau a llwyfan digidol cenedlaethol, sy'n caniatáu i wybodaeth ddilyn y claf, ble bynnag y caiff gofal ei gyflwyno.
 
Mae'r dogfennau sydd ar gael trwy Borth Clinigol Cymru yn cynnwys e-gyfeiriadau meddygon teulu, e-ryddhadau, llythyrau clinigau, nodiadau clinigau, nodiadau cyn-asesiad, a nodiadau llawdriniaethau theatr. Hyd yma, gall defnyddwyr Porth Clinigol Cymru gyrchu 10.3 miliwn o ddogfennau clinigol, a chaiff bron 100,000 ohonynt eu cyrchu bob mis.
 
Caiff y dogfennau hyn eu storio yng Ngwasanaeth Cofnodion Gofal Cymru (WCRS), a fydd, ymhen amser, yn disodli cofnodion papur.
 
Yn dilyn gweithredu Gwasanaeth Cofnodion Gofal Cymru ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr ac Aneurin Bevan y gwanwyn hwn, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre, bydd yr holl staff sy'n defnyddio Porth Clinigol Cymru yn gallu cyrchu dogfennau clinigol a gynhyrchir y tu allan i'w byrddau iechyd.

WRRS ar gael yn fuan mewn mwy o fyrddau iechyd   
 
Yn y gwanwyn, byrddau iechyd Betsi Cadwaladr ac Aneurin Bevan fydd y ddau fwrdd iechyd olaf i fynd yn fyw gyda Gwasanaeth Adrodd am Ganlyniadau Cymru (WRRS), sy'n caniatáu i staff iechyd weld adroddiadau diagnostig a cheisiadau ar gyfer eu cleifion, ni waeth ble y cawsant eu cynhyrchu. Mae'r Gwasanaeth Adrodd am Ganlyniadau Cymru ar gael trwy Borth Clinigol Cymru - yr e-offeryn sy'n darparu cymwyseddau o ansawdd uchel i ddefnyddwyr, sy'n cynorthwyo tasgau dyddiol wrth gyflwyno gofal.
 
Yn ystod yr un cyfnod, bydd mynediad at ganlyniadau radioleg yn mynd yn fyw ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Treforys.
 
O'r adeg honno, bydd clinigwyr yn gallu gweld canlyniadau profion patholeg a radioleg, pa le bynnag y cawsant eu cynhyrchu yng Nghymru, gan gyflwyno buddion sylweddol i ofal cleifion a gwella effeithlonrwydd. Bydd hyn yn helpu i leihau dyblygu profion a phrofion diangen, yn ogystal â darparu mynediad i ddefnyddwyr Porth Clinigol Cymru at wybodaeth hanfodol, wrth roi gofal.
 
Ar hyn o bryd, mae'r WRRS yn darparu mynediad at adroddiadau cardioleg Cwm Taf, a bydd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan yn dilyn yn ddiweddarach eleni.
 
Yn 2017, cyrchwyd mwy na 2 filiwn o adroddiadau profion ym Mhorth Clinigol Cymru trwy WRRS. O'r rhain, cafodd cyfanswm o 112,000 o ganlyniadau profion (heb gynnwys cyrchiadau lluosog) eu cyrchu ar draws ffiniau byrddau iechyd. Ar hyn o bryd, mae 20,000 o ganlyniadau y tu allan i fwrdd iechyd yn cael eu cyrchu bob mis.
 
Mae'r nodweddion newydd hyn sydd ar gael trwy Borth Clinigol Cymru yn hanfodol i drawsnewid y gwasanaeth, a darparu'r gwasanaethau digidol sydd eu hangen ar staff gofal iechyd i gynorthwyo tasgau a gofal clinigol.

System Gweinyddu Cleifion Cymru yn gwneud gwahaniaeth      
 
Roedd 2017 yn flwyddyn brysur i System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS).  
 
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae WPAS wedi prosesu 1.8 biliwn o drafodion, gan gynnwys 4.5 miliwn o lythyrau ar gyfer cleifion, 3.9 miliwn o ymweliadau gan gleifion allanol, ac 1.7 miliwn o gyfeiriadau.
 
Mae chwech allan o saith o'r byrddau iechyd yn defnyddio WPAS, ac aeth Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn fyw, gyda'r fersiwn ddiweddaraf, ym mis Tachwedd.
 
Mae WPAS yn rheoli gweinyddiaeth cleifion mewn ysbytai. Mae'n cynnwys manylion adnabod cleifion, nodiadau, llythyrau ac apwyntiadau cleifion allanol. Mae hefyd yn cofnodi manylion ymweliadau cleifion ag ysbytai, gan gynnwys rheoli rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaethau cleifion preswyl, apwyntiadau cleifion allanol, ac ymweliadau brys.  
Fferyllwyr yn cael mynediad at Gofnod Meddyg Teulu Cymru
 
Mae Fferyllwyr Cymunedol wedi cael mynediad at wybodaeth am feddyginiaethau ar Gofnod Meddyg Teulu Cymru, mewn prosiect peilot a gynhelir ledled Cymru.
   
Trwy'r peilot, gall fferyllwyr wirio unrhyw wybodaeth allweddol o gofnod meddyg teulu claf, os gofynnir am gyflenwad brys o feddyginiaethau. Bydd yn cadarnhau mai'r feddyginiaeth hon sydd ei hangen ar y claf i gynorthwyo ei ofal iechyd yn ddiogel. Mae'r wybodaeth sydd ar gael i fferyllwyr yn cynnwys meddyginiaeth bresennol, a meddyginiaeth a ragnodwyd i'r claf o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hefyd yn dangos unrhyw alergeddau ac unrhyw adweithiau niweidiol.
 
Mae Dewis Fferyllfa yn helpu pobl i gael triniaeth ar gyfer mân gyflyrau heb ymweld â'u meddyg teulu. Gall fferyllydd gynnal ymgynghoriad a gweld crynodeb o gofnod meddygol meddyg teulu y claf (gyda chaniatâd y claf), i sicrhau y caiff meddyginiaethau priodol eu rhagnodi. Mae gwasanaethau digidol hefyd yn cynorthwyo fferyllfeydd sy'n cynnig pigiadau ffliw tymhorol, a gwasanaethau presgripsiynau brys.
 
Caiff y peilot ei gynnal mewn pedair fferyllfa, ac os bydd yn llwyddiannus, bydd yn cael ei ymestyn i'r holl fferyllfeydd â mynediad at system TG Dewis Fferyllfa. Ar hyn o bryd, mae bron dwy o bob tair fferyllfa yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau Dewis Fferyllfa.
 
Trwy Dewis Fferyllfa, gall cleifion sy'n gadael yr ysbyty ofyn i'w gwybodaeth ryddhau gael ei hanfon yn electronig at fferyllfa gymunedol o'u dewis nhw, sy'n ei gwneud hi'n haws i'r fferyllydd gynnal adolygiad o feddyginiaethau rhyddhau (DMR). Gweler  sut mae DMRs yn gweithio triwyr system Dewis Fferyllfa ar ein fideo diweddaraf.
Y dyfodol     
 
"Bydd cydweithio â chlinigwyr a phartneriaid y diwydiant yn parhau i'n helpu ni gyflawni ein nodau," meddai Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Andrew Griffiths, mewn erthygl gan Digital Health News, yn gofyn i arweinwyr iechyd digidol dylanwadol yn y DU ragweld beth yw dyfodol iechyd digidol a TG y GIG yn 2018.
 
Ychwanegodd Griffiths, "Rydym ni'n sefydlu rhwydwaith CCIO ar gyfer Cymru, i roi arloeswyr digidol yn y rheng flaen, a hyrwyddo a datblygu arweinwyr gwybodaeth glinigol gyfredol, a rhai'r dyfodol."
 
Darllenwch yr erthygl, "Predictions for the Year Ahead: UK digital health leaders on 2018," ar wefan DigitalHealth.net   .
Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno adroddiad ar wybodeg
 
Cyhoeddwyd adroddiad ar y defnydd o wybodeg yn GIG Cymru gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r adroddiad yn dweud bod gan GIG Cymru weledigaeth glir ar gyfer y cofnod cleifion electronig, ond mae angen mwy o waith i'w gyflwyno.
 
Rydym ni'n croesawu'r adroddiad, sy'n amlygu sut gall technoleg wella gofal cleifion, a galluogi newid i'r gwasanaeth - ac ar yr un pryd, cydnabod bod buddsoddiad parhaus yn hanfodol.
 
Mae'r adroddiad ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Ymuno â'r Grwp Hacio    
      
Dyma neges arall i'ch atgoffa bod Diwrnod Hacio'r GIG ar fin cael ei gynnal - pan fydd pobl yn dod at ei gilydd, dros ddeuddydd, i drafod syniadau, llunio atebion cyflym, ac efallai, creu cynhyrchion meddalwedd gwirioneddol ar gyfer gofal iechyd hyd yn oed.  
 
Cynhelir Diwrnod Hacio'r GIG yng Nghaerdydd ar 27 a 28 Ionawr dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Meddygol Cysylltiol, Anne Marie Cunningham. Ewch i nhshackday.com i ddysgu mwy. 
 
Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer Digwyddiad Hacio Iechyd Cymru yng Nghaerdydd ar 22 a 23 Mawrth trwy Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.   
 
Mae'r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim.