December 2018
candles_romantic.jpg
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
 
Hoffai Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ddymuno Nadolig hyfryd a Blwyddyn Newydd hapus iawn i chi a'ch teulu.  

NHS Wales Informatics Service wishes you and your family a wonderful Christmas and very happy New Year.
New child health system switched on in Cardiff and Vale 
 
Cardiff and Vale is the latest health board to benefit from the new child health system, the Children and Young Persons Integrated System (CYPrIS). It follows Aneurin Bevan University Health Board which implemented CYPrIS earlier this year.
 
The CYPrIS application, developed by NHS Wales Informatics Service, ensures that every child in Wales has an active care record. Clinicians will now have access to more information about a child's health and will be able to make more informed decisions about care options.
 
The CYPrIS application is the fourth of its kind to be developed by NHS Wales Informatics Service and provides comprehensive functionality for a number of national health programmes, such as the National Childhood Immunisation and Healthy Child Wales programmes. In addition to the core application a read only web version is available which allows clinicians to view the whole child health record.
 
CYPrIS will continue to roll out across health boards throughout 2019. The application will be developed further to include a number of key integrations such as the GP interface and the Welsh Care Community Information System (WCCIS).
New prediction tool aids pharmacists   
 
Last month,the 'Sore Throat Test and Treat' functionality became available in nearly sixty early adopter pharmacies in Cwm Taf and Betsi Cadwaladr health boards.  

With the new functionality, accredited pharmacists are able to use a prediction tool in the Choose Pharmacy application to assist in determining whether a patient with a sore throat might benefit from antibiotics and if so, to prescribe suitable antibiotics. 

Choose Pharmacy has now been rolled out across all eligible pharmacies in Wales.
 
The service allows patients with minor ailments to be treated by their community pharmacist, rather than waiting to see a GP. The Choose Pharmacy digital application, which underpins the service, allowing electronic patient records to be transferred between Welsh community pharmacies, was created and is supported by NHS Wales Informatics Service.

While taking winter pressures off A&Es, Choose Pharmacy also gives patients  a place to turn during the cold and flu season for both advice and treatment of common winter ailments .  
Banks break in: Q&A with our Cybersecurity Specialist
 
Steve Banks picks locks.  As a senior cybersecurity specialist with NHS Wales Infomatics Service, it's part of his job.

Steve is what's known as an "ethical hacker" - someone who'll dig into digital systems and look for ways to get in that shouldn't be there. Recently, Steve's received certification from the I nternational Council of E-Commerce Consultants - the world's largest cybersecurity technical certification body.

Q: Hacking has quite a negative connotation. Just what is "ethical hacking?"
 
A: Back in the day there were "hackers" and "crackers" the crackers were generally the bad 'guys', and the hackers were the good 'guys'. But it all has a negative connotation now. And hackers just aren't teenagers with hoodies in dark rooms.
 
My job is to simply make sure systems are safe. I've learned a number of ways to get into systems using a number methods and tools. If I learn how to get in, I can protect it more effectively.
 
Q: So you're a bug hunter. You hunt bugs?
 
A: (laughs) Yeah I suppose that's it. I'm inquisitive. I like to know how things break and how they can be fixed.
 
Q: What exactly are you looking for?
 
A: You are effectively looking for ways in - vulnerabilities in systems. More to the point, vulnerabilities that can be exploited. 

Sometimes, a system will have a vulnerability and it may not be exploitable. So there might be a weakness but you can't get through . . .yet. It could be a tool hasn't been developed or the way a system is set up you can't penetrate it straight away but then there might be another way around things. 

It's all about finding vulnerabilities, what we can remediate and what can be fixed. If things can't be fixed, then we may have to look at changing the product, or find the right security tool or look for another way of preventing access.
 
Q: Does that happen often - when things can't be fixed?
 
A: No. Not really. There are times when common things are found and are quite easy to fix but sometimes there are things we find that take a bit more work and more thinking to sort out.
 
Q: You must be the only person in the organisation who's happy when they find something wrong!
 
A: Well, you're happy when you've found something because it's knowing it can be fixed! That's what's important. And remember, it's not just me. We now have several certified ethical hackers on our [security] team. 

There's about a dozen of us all working to make sure systems are as secure as possible. In fact, recently we've taken on four new cybersecurity apprentices, who are released to us one day each week on their way toward completing their Computer Networks and Cybersecurity Degree with University of Wales Trinity St David.

We all do different things from operational to compliance and design. For instance, we work with the NWIS Network team with regards to authorising firewall rule changes between us, health boards and third parties. We all work together, making sure things are secure - quietly getting on. 
One HealthTech event spotlights Healthcare AI    

A recent One HealthTech event focused on the possibilities and pitfalls surrounding the future of Artifical Intelligence in healthcare. 
 
Dr Peter Bannister, Executive Chair, IET Healthcare Sector, Rhian Rice, Product Manager at Clinithink, and Dr Lesa S. Wright (right), Consultant Psychiatrist at Cwm Taf, discussed how AI is increasingly being used in healthcare settings to diagnose and improve patient outcomes as well as the dangers of becoming to reliant on it. 
 
If you missed the event, there are plenty more informative and topical discussions held in Cardiff's One HealthTech throughout 2019. Keep a lookout on their website at:
 
 
One HealthTech (OHT) is a global community bringing people together to celebrate and promote equality and diversity in health technology. We do this by holding events on a number of topics related to health and technology, creating a space for people, from a diverse range of backgrounds, to get together, share ideas, opening up boundaries to enable innovation.
 
And if you are interested in sponsoring or speaking at future events, please contact OHT Wales Curator, Mandy Pope

Rhagfyr 2018
Gweithredu system iechyd plant newydd yng Nghaerdydd a'r Fro 

 
 
Caerdydd a'r Fro yw'r bwrdd iechyd diweddaraf i elwa ar y system iechyd plant newydd, sef System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS). Mae'n dilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a weithredodd CYPrIS yn gynharach eleni.
 
Mae cymhwysiad CYPrIS, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru gofnod gofal gweithredol. Bydd clinigwyr nawr yn cael mynediad at fwy o wybodaeth am iechyd plentyn, a byddant yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am opsiynau gofal.
 
Cymhwysiad CYPrIS yw'r pedwerydd o'i fath i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ei ddatblygu, ac mae'n darparu ymarferoldeb cynhwysfawr ar gyfer nifer o raglenni iechyd cenedlaethol, fel rhaglenni Imiwneiddio Plant Cenedlaethol, a Phlant Iach Cymru. Yn ogystal â'r cymhwysiad craidd, mae fersiwn darllen yn unig ar y we ar gael, sy'n caniatáu i glinigwyr weld cofnod iechyd cyfan plentyn.
 
Bydd CYPrIS yn parhau i gael ei gyflwyno ar draws y byrddau iechyd trwy gydol 2019. Bydd y cymhwysiad yn cael ei ddatblygu ymhellach i gynnwys nifer o integriadau allweddol, fel rhyngwyneb meddygon teulu, a System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS).
Offeryn rhagfynegi newydd yn cynorthwyo fferyllwyr   
 
Fis diwethaf, daeth yr ymarferoldeb 'Profi a Thrin Dolur Gwddf' ar gael mewn bron 60 o fferyllfeydd mabwysiadu cynnar ym myrddau iechyd Cwm Taf a Betsi Cadwaladr. 
 
Yn sgil yr ymarferoldeb newydd, gall fferyllwyr achrededig ddefnyddio offeryn rhagfynegi yn y cymhwysiad Dewis Fferyllfa i gynorthwyo i bennu a allai claf â dolur gwddf elwa ar wrthfiotigau, ac os byddai, rhagnodi'r gwrthfiotigau addas.
 
Mae Dewis Fferyllfa bellach wedi cael ei gyflwyno ym mhob fferyllfa gymwys yng Nghymru.
 
Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i gleifion â mân anhwylderau gael eu trin gan fferyllydd cymunedol, yn hytrach nag aros i weld meddyg teulu. Crëwyd cymhwysiad digidol Dewis Fferyllfa, sy'n tanategu'r gwasanaeth, ac sy'n caniatáu trosglwyddo cofnodion cleifion electronig rhwng fferyllfeydd cymunedol Cymru, gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Yn ogystal â lleihau pwysau ar A&E, mae Dewis Fferyllfa yn rhoi cleifion lle i droi yn ystod tymor ffliw ac annwyd ar gyfer cyngor a thriniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin yn ystod y gaeaf.
Steve y Seiberddiogelwr: Sesiwn holi ac ateb gyda'n harbenigwr seiberddiogelwch


Mae Steve Banks yn datod cloeon. Ac yntau'n uwch arbenigwr seiberddiogelwch gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, mae'n rhan o'i swydd.
 
Mae Steve yn cael ei adnabod fel "haciwr moesegol" - rhywun sy'n treiddio systemau digidol i chwilio am ffyrdd i fynd i mewn, na ddylent fod yno. Yn ddiweddar, derbyniodd Steve ardystiad gan y Cyngor Rhyngwladol o Ymgynghorwyr e-Fasnach - sef corff ardystio technegol seiberddiogelwch mwyaf y byd.
 
C: Mae arwyddocâd eithaf negyddol i hacio. Beth yw "hacio moesegol?"
 
A: Yn y gorffennol, roedd 'hacwyr' a 'cracwyr'; yn gyffredinol, y cracwyr oedd y bobl ddrwg, a'r hacwyr oedd y bobl dda. Ond mae arwyddocâd negyddol i'r cyfan nawr. Ac nid dim ond pobl ifanc sy'n gwisgo hwdis, mewn ystafelloedd tywyll, sy'n hacwyr.
 
Fy swydd i, yn syml, yw gwneud yn siwr bod y systemau'n ddiogel. Rwyf wedi dysgu nifer o ffyrdd i fynd i mewn i systemau gan ddefnyddio nifer o ddulliau ac offer. Os gallaf ddysgu sut i fynd i mewn, gallaf ei ddiogelu'n fwy effeithlon.
 
C: Felly, rydych chi'n heliwr bygiau. Rydych chi'n hela bygiau?
 
A: (chwerthin) Dyna fe, yn y bôn. Rwy'n chwilfrydig. Rwy'n hoffi gwybod sut mae pethau'n torri a sut gellir eu trwsio nhw.
 
C: Am beth yn union rydych chi'n chwilio?
 
A: Rydych chi'n chwilio am ffyrdd i mewn - gwendidau yn y systemau.  Yn bwysicach, gwendidau y gellir ymelwa arnyn nhw. 
 
Weithiau, bydd gan system wendid, ond efallai na fydd yn ymelwa arno. Felly, efallai bod gwendid, ond ni fyddwch chi'n gallu mynd trwyddo... eto. Efallai oherwydd bod offeryn heb gael ei ddatblygu, neu'r ffordd y mae'r system wedi cael ei sefydlu, ni allwch ei dreiddio ar unwaith, ond efallai bod ffordd arall o gwmpas pethau. 
 
Mae'n ymwneud â dod o hyd i wendidau, beth allwn ni ei adfer, a beth allwn ni ei drwsio. Os na ellir trwsio pethau, yna efallai y bydd rhaid i ni ystyried newid y cynnyrch, neu ddod o hyd i'r offeryn diogelwch cywir, neu chwilio am ffordd arall i atal mynediad.
 
C: A yw hynny'n digwydd yn aml - methu trwsio pethau?
 
A: Na, a dweud y gwir. Mae adegau pan fyddwn ni'n dod o hyd i bethau cyffredin, ac maen nhw'n eithaf hawdd i'w trwsio, ond weithiau, rydym ni'n dod o hyd i bethau sydd angen ychydig bach mwy o waith a meddwl i'w datrys.
 
C: Mae'n rhaid mai chi yw'r unig unigolyn yn y sefydliad sy'n hapus pan ddewch chi o hyd i rywbeth o'i le!
 
A: Wel, rwy'n hapus pan fyddaf yn dod o hyd i rywbeth, oherwydd rwy'n gwybod y gallaf ei drwsio! Dyna beth sy'n bwysig. A chofiwch, nid fi yw'r unig un. Mae gennym ni sawl haciwr moesegol ardystiedig ar ein tîm [diogelwch] erbyn hyn.
 
Mae oddeutu dwsin ohonom ni'n gweithio i wneud yn siwr bod y systemau mor ddiogel â phosibl. A dweud y gwir, yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyflogi pedwar prentis seiberddiogelwch newydd, sy'n gweithio gyda ni ddiwrnod yr wythnos, wrth iddynt gwblhau eu Gradd Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 
 
Rydym ni gyd yn gwneud pethau gwahanol, o bethau gweithredol i gydymffurfio a dylunio. Er enghraifft, rydym ni'n gweithio gyda thîm Rhwydwaith Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o ran awdurdodi newidiadau i reolau mur gwarchod rhyngom ni, byrddau iechyd a thrydydd partïon. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siwr bod pethau'n ddiogel - gan gyd-dynnu'n dawel.
 
Digwyddiad One HealthTech yn amlygu deallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd   
 
 
Roedd digwyddiad diweddar gan One HealthTech yn canolbwyntio ar bosibiliadau a pheryglon dyfodol deallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd. 
 
Trafododd Dr Peter Bannister, Cadeirydd Gweithredol, IET Healthcare Sector, Rhian Rice, Rheolwr Cynhyrchion Clinithink, a Dr Lesa S. Wright (ar y dde), Seiciatrydd Ymgynghorol yng Nghwm Taf, sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio'n gynyddol mewn lleoliadau gofal iechyd i roi diagnosis a gwella canlyniadau cleifion, yn ogystal â pheryglon bod yn ddibynnol arno.
 
Os gwnaethoch chi golli'r digwyddiad, caiff digon o drafodaethau addysgiadol a chyfoes eu cynnal yn One HealthTech Caerdydd trwy gydol 2019. Cadwch lygad ar eu gwefan, ar:
 
 
Mae One HealthTech (OHT) yn gymuned fyd-eang sy'n dod â phobl at ei gilydd i ddathlu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes technoleg iechyd. Rydym ni'n gwneud hyn trwy gynnal digwyddiadau ar nifer o bynciau cysylltiedig ag iechyd a thechnoleg, gan greu lle i bobl, o amrywiaeth eang o gefndiroedd, i ddod at ei gilydd, i rannu syniadau, sy'n agor ffiniau i alluogi arloesedd.
 
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn noddi neu siarad mewn digwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â Churadur OHT Cymru, Mandy Pope